Mae cyfreithwyr dwsinau o bobol sy’n cael eu halltudio i Jamaica – sy’n cynnwys dynes sy’n aelod o genhedlaeth Windrush – wedi disgrifio’r sefyllfa fel “sarhad ofnadwy” i gyfiawnder.
Fe gyhuddodd aelodau BME Cyfreithwyr am Gyfiawnder y Llywodraeth o fethu a dysgu o wersi sgandal Windrish wnaeth arwain at ymddiswyddo’r Ysgrifennydd Catref, Amber Rudd, y llynedd.
Roedd amcangyfrif bod 15 o bobol ar restr ar awyren i’w halltudio i Jamaica wedi cael eu hesgusodi ar y funud olaf, ac yn cael aros yng ngwledydd Prydain.
Nawr mae’r Llywodraeth wedi cael eu cyhuddo o gamarweinio’r cyhoedd ynghylch maint euogfarnau troseddol gan y grŵp o gyfreithwyr.
Credir bod oddeutu 35 o bobl wedi aros ar y awyren i gael eu halltudio.
Dywedodd Lee Jasper, o fudiad cyfiawnder cymdeithasol Blaksox, bod merch 61 oed ymhlith y rheini sydd i gael eu halltudio i Jamaica.
“Dyma’r awyren (alltudio) gyntaf ers mis Mawrth – ydi’r Llywodraeth wedi dysgu unrhyw beth o sgandal Windrush?” holodd.
“Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, eu bod i gyd yn droseddwyr difrifol – nid ydym yn credu mai dyma yw’r achos, a gallai fod wedi camarwain Tŷ’r Cyffredin.”