Mae llywydd Sinn Fein, Mary Lou Mcdonald, wedi galw ar y Prif Weinidog Theresa May i gynnal refferendwm ar ymuno Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Er hynny, doedd Theresa May heb ymateb gyda disgrifiad o ym mha sefyllfa fyddai poll ar yr undeb yn gallu cael ei alw.

Yn ôl Cytundeb Belffast 1998, mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yn gallu galw refferendwm o’r fath ar unrhyw adeg os yw’n edrych yn debygol bod y mwyafrif o bleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon eisiau gadael gwledydd Prydain ag uno gydag Iwerddon.

Cafodd y pwnc ei godi rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Sinn Fein yn ystod cyfres o gyfarfodydd gyda phleidiau gwleidyddol yn Nhŷ Stormont yn Belffast.

Dywed Mary Lou McDonald bod y mwyafrif yng Ngogledd Iwerddon wedi pleidleisio i gadw Ynysoedd Prydain yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. At hynny, mae hi’n honni bod rhan allweddol o Gytundeb Belffast wedi cael ei ddifrodi gyda Gogledd Iwerddon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Does neb yn Iwerddon wedi cydsynio â Brexit, ac fe bleidleisiodd pobl Gogledd Iwerddon i aros,” meddai.

“Rydym hefyd yn gwybod o’r data pleidleisio yn y gogledd a’r de bod y cyhoedd o blaid undeb Wyddeleg os daw Brexit.”