Mae’r dyn a gafwyd yn euog o ladd dynes ifanc ar gwch cyflym yn Llundain, wedi’i ildo ei hun i’r heddlu yn Georgia.

Roedd Jack Shepherd wedi bod ar ffo ers iddo fethu â throi i fyny i’r achos llys yn yr Old Bailey ym mis Gorffennaf y llynedd.

Fe gafodd ei ddedfrydu, yn ei absenoldeb, i chwe blynedd o garchar am ddynladdiad Charlotte Brown, 24.

Wedi iddo fynd o’i wirfodd i orsaf heddlu yn ninas Tbilisi, fe ddywedodd wrth newyddiadurwyr iddo fod mewn “damwain drasig”.

Bu farw Charlotte Brown, o Clacton-on-Sea, Essex, ym mis Rhagfyr 2015 pan drodd cwch Jack Shepherd drosodd yn nyfroedd oer afon Tafwys.

Roedd y ddau wedi bod ar noson allan ramantus ac wedi yfed lot o Champagne.

Fe gafwyd Jack Shepherd yn euog o ddynladdiad trwy esgeulustod.