Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar gynghorwyr Gwynedd i wrthod toriadau arfaethedig i ganolfannau iaith.

Daw’r alwad cyn trafodaeth yn y cyngor heddiw (dydd Iau, Ionawr 24) sy’n ystyried dyfodol canolfannau iaith y sir.

Mae’r canolfannau hyn, yn ôl y Gymdeithas, yn trochi plant o du allan i’r sir yn y Gymraeg gan eu paratoi i astudio trwy’r Gymraeg pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r ysgol.

Cynnig Cyngor Gwynedd yw gwneud toriadau i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019.

Cyrraedd miliwn o siaradwyr

Yn ôl David Williams o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae’r canolfannau yn ganolog wrth greu siaradwyr hyderus ac er mwyn cyrraedd “y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr”.

Mae’n honni y byddai lleihau’r ddarpariaeth yn “annilysu’n ymarferol” bolisi iaith ysgolion Gwynedd ynghyd â’r Siarter Ysgolion.

“Os na ellir rhoi sgiliau Cymraeg i blant a phobl ifanc sydd wedi symud i’r ardal cyn eu derbyn at yr ysgolion cymunedol, byddai’n gosod baich ychwanegol annheg ac anghynaladwy ar athrawon,” meddai.

“Mae’r canolfannau’n fodel sydd wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel arfer arbennig ac yn wasanaeth sy’n greiddiol i sicrhau llwyddiant Polisi Iaith y Sir.

“Nhw yw’r un llwyddiant yng Nghymru sydd wedi bod o ran cynnwys plant mewnfudwyr – gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i’r mewnfudwyr.”