Mae Heddlu Llundain yn apelio am wybodaeth am “ddau unigolyn peryglus” ar ôl i swyddog diogelwch gael ei drywanu i farwolaeth yn y ddinas ar nos Calan.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Tudor Simionov, 33, yn ystod parti Nos Calan yn Fountain House yn Park Lane am oddeutu 5.30yb.
Roedd e wedi ceisio atal pobol rhag mynd i mewn i’r parti preifat cyn yr ymosodiad.
Cafodd dau swyddog diogelwch arall eu hanafu, ynghyd â dynes 29 oed.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am Ossama Hamed (25) a Nor Aden Hamada (23), sy’n “unigolion peryglus”.