Fe fydd Donald Trump a Kim Jong Un yn cyfarfod unwaith eto i drafod dadfeilio canolfannau niwclear Gogledd Corea, meddai’r Tŷ Gwyn.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod rhwng Arlywydd yr Unol Daleithiau a Kim Yong Chol, llysgennad Gogledd Corea, yn Washington.
Mae disgwyl i’r ddau arweinydd gyfarfod ddiwedd mis nesaf yn dilyn trafodaethau “cynhyrchiol”.
“Mae’r Unol Daleithiau am barhau i bwyso a rhoi sancsiynau ar Ogledd Corea nes ein bod yn gweld dadniwcleareiddio llawn wedi’i wirio,” meddai llefarydd.
“Rydym wedi cael camau da ac ewyllys da gan Ogledd Corea wrth ryddhau gwystlon a chamau eraill.
“Ac felly rydym am barhau â’r sgyrsiau hynny ac mae’r Arlywydd yn edrych ymlaen at y cyfarfod nesaf.”
‘Trobwynt’
Mae De Corea yn dweud eu bod yn disgwyl i’r ail gyfarfod fod yn “drobwynt” wrth geisio sicrhau heddwch ar y tir rhwng De a Gogledd Corea.
Fis Mai y llynedd, fe wnaeth Donald Trump a Kim Jong Un gynnal eu cyfarfod llwyddiannus cyntaf yn Singapôr.
Ond ychydig iawn o gynnydd a fu ers hynny ar y cytundeb a gafodd ei lunio.
Does dim manylion ar hyn o bryd ynghylch sut fydd dadniwcleareiddio’n digwydd.