Mae neidio ciws, defnyddio ffôn yn y sinema a glynu gwm cnoi dan fyrddau ymhlith y “troseddau” sydd angen eu cosbi, yn ôl ymchwil diweddar.
Mae traean o bobol Ynysoedd Prydain eisiau gwneud neidio ciws yn anghyfreithlon, ac yn teimlo ei fod yn “drosedd” sydd angen ei gosbi.
Bu ymchwilwyr sianel deledu CBS Justice yn cynnal pôl i ddarganfod y “troseddau” dyddiol sydd yn corddi Prydeinwyr.
Mae 37% yn teimlo bod angen cosb ar gyfer glynu gwm cnoi o dan fyrddau, ac mae 36% o blaid deddf i atal plant rhag rhedeg reiat mewn bwytai.
Mae defnyddio ffôn symudol yn corddi 30%, tra mae 28% yn teimlo fod angen atal pobol rhag gwrando ar gerddoriaeth drwy eu ffonau mewn mannau cyhoeddus.
66% yn euog
Roedd 62% o’r bobol gafodd eu holi yn teimlo fod y bobol sy’n “troseddu” fel hyn ddim yn poeni am y byd o’u cwmpas, ac yn teimlo y dylid dysgu gwers iddyn nhw.
Er hynny, roedd 66% yn cyfaddef eu bod yn euog o’r “troseddau” dan sylw yn y gorffennol.
Mae’r ymchwil gan CBS Justice hefyd yn datgelu bod 85% yn meddwl bod pobol yn llai ystyriol o bobol eraill, o gymharu gyda chenhedlaeth eu rhieni.