Mae Nicola Sturgeon wedi addo cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban “mewn mater o wythnosau”.
Bu cyfarfod rhwng Prif Weinidog yr Alban a Theresa May ddydd Mercher (Ionawr 16), yn dilyn methiant y cytundeb Brexit ar lawr Tŷ’r Cyffredin y noson gynt.
Wrth siarad yn sesiwn holi’r Prif Weinidog yn Holyrood heddiw, mae Nicola Sturgeon unwaith eto wedi ymrwymo ei hun i ail refferendwm ar annibyniaeth, gan ddweud y byddai’n gwthio’r mater beth bynnag fydd canlyniad y cytundeb Brexit.
Ychwanegodd hefyd fod cefnogaeth i annibyniaeth yn cryfhau yn yr Alban “fesul diwrnod”.
“Dw i’n cefnogi annibyniaeth”
“Dw i’n credu bod y Prif Weinidog [Theresa May] yn ymwybodol iawn o’m safbwyntiau ar annibyniaeth,” meddai Nicola Sturgeon.
“Dw i’n cefnogi annibyniaeth a dw i’n credu y cynharaf y mae’r Alban yn annibynnol y gorau.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hanfodol, o ystyried y drychineb sy’n wynebu’r Alban – a hynny i’n heconomi, ein cymdeithas, ein safonau byw, ein disgwyliad ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a’n henw da yn y byd – yw y dylai annibyniaeth fod yn agored i bobol yn yr Alban.
“Pan fydd pobol yn yr Alban yn cael y cyfle i ddewis annibyniaeth, dw i’n credu y bydd y wlad yn ffafrio bod yn wlad annibynnol.”