Mae angen i Gymru ddarlledu “trwy fodel Cymreig” a chefnu ar y drefn Eingl-Sacsonaidd, meddai dramodydd a ysgrifennydd gorsaf gymunedol yng nghefn gwlad Ceredigion.
Mae Euros Lewis yn Ysgrifennydd Radio Beca, ac yn teimlo bod angen ail-feddwl am y modd y mae deunydd Cymreig a Chymraeg yn cael ei glywed.
“Rhaid cwestiynu’r gair darlledu, a’n mynd â fe i ffwrdd o’r diffiniad cul Prydeinig, Eingl-Sacsonaidd,” meddai Euros Lewis wrth golwg360.
“Rhaid herio’r syniad mai rhywun mewn stiwdio, a phobol mewn siwtiau mewn rhyw le canolog yn penderfynu beth mae pobol eisiau clywed, yw ‘darlledu’… Rhaid dychwelyd at ein diffiniad ni o ‘darlledu’.
“Mae’n hen air yn y Gymraeg, ac yn mynd yn ôl cannoedd o flynyddoedd ac yn syml mae’n golygu dy fod ti’n rhannu rhywbeth yn eang. Mae rhannu rhywbeth yn eang yn golygu nid un cyfrwng, ond unrhyw gyfrwng, a phob cyfrwng. Mae yna fodel arall. A’r model arall yna yw’r model Cymreig.
Radio Ceredigion
Daeth i’r amlwg ym mis Rhagfyr y byddai gorsaf Radio Ceredigion yn dod i ben, ac y byddai Nation Radio yn darlledu yn ei lle – a deunydd uniaith Saesneg sydd ar yr orsaf honno.
Mae Euros Lewis yn gwadu bod hynny’n argoeli’n wael i orsafoedd cymunedol y gorllewin.
“Na dw i ddim [yn credu ei fod yn argoeli’n wael] i ddweud y gwir,” meddai. “Doedd Radio Ceredigion ddim yn radio gymunedol ers blynyddoedd lawer. Roed y gwasanaeth yna wedi’i golli.
“Dyw’r gorsafoedd masnachol byth yn mynd i wasanaethu’r gymdeithas gynhenid Gymraeg a gweithredu trwy ddiwylliant y Gymraeg. Achos mae e’n rhy anghonfensiynol.
“Dyw e ddim yn ffitio fel maen nhw’n diffinio radio.”