Mae bron i dri chwarter o Aelodau Seneddol yn credu bod Theresa May wedi gwneud yn wael wrth drafod cytundeb Brexit.
Dyma mae holiadur gan The UK in a Changing Europe wedi ei ddarganfod wrth holi Aelodau ynglŷn â thriniaeth y prif weinidog o ymadawiad Prydain o Ewrop.
Mae 47% o Geidwadwyr yn credu ei bod hi wedi gwneud yn ‘wael’ i gymharu â’r 34% sydd yn meddwl ei bod hi wedi gwneud yn ‘dda’.
Ar y cyfan, mae 70% yn teimlo ei bod hi wedi gwneud yn ‘wael’ yn ffurfio’r cytundeb.
Mae’r holiadur yn dangos hefyd bod 55% o Geidwadwyr o’r farn bod “atebion eraill” yn ymwneud â’r trefniant ‘wrth gefn’ i atal ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Yn ôl yr Athro Anand Menon, The UK in a Changing Europe, “Mae Tŷ’r Cyffredin yn amlwg iawn yn hynod ranedig.”
“Mae’n anodd gweld, o ystyried y niferoedd, sut y gall y Prif Weinidog ddelio â hi.
“Wedi dweud hyn, mae’n anodd gweld sut y gall unrhyw ganlyniad arwain mwyafrif.”