Mae’r Aelod Seneddol Albert Owen yn teimlo bod angen gwella diogelwch tu allan i balas Westminster yn San Steffan os oes modd arddel democratiaeth go iawn.

Cafodd Aelod Seneddol Ceidwadol, Ann Soubry, ei galw yn “Natsi” ar College Green ddoe (dydd Llun, Ionawr 7), ac mae cryn sylw wedi’i roi i lythyr gan Aelodau at Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan yn sôn am “ddirywiad” safonau diogelwch San Steffan.

Yn ôl cynrychiolydd Llafur Ynys Môn yn Nhu’r Cyffredin, mae’n “teimlo’n gryf” bod angen sicrhau diogelwch o gwmpas College Green “i’r lot o bobol sydd yn gweithio” yno, ac nid Aelodau Seneddol yn unig.

“Mae’r ddadl (Brexit)/yn rhannu pobol, mae pobol yn teimlo’n gryf, ond mae’n rhaid i ni ei wneud o mewn proses democrataidd a dim gweiddi ar ein gilydd,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi cael cyfarfodydd gyda llawer o bobol sy’n dweud yr un peth, ac sy’n credu mai nod i’r Aelodau Seneddol yn unig ddylai hyn fod.”