Mae marwolaeth gwraig y daethpwyd o hyd iddi mewn ty yn Essex, yn cael ei thrin fel llofruddiaeth.

Fe ddaeth heddlu o hyd i Simbiso Aretha Moula, 39, a’i phriod, Garikayi Moula, 51, yn eu cartref yn Rainham ddydd Gwener diwehaf (Ionawr 4).

Mwe Heddlu’r Met yn dweud eu bod wedi gadael i berthnasau wybod am y ddwy farwolaeth.

Yn rilyn profion post-mortem, mae marw Mrs Moula yn cael ei hystyried yn llofruddiaeth, a dim byd yn amheus ynglyn ag amgylchiadau matwolaeth ei gwr.

Dydyn nhw ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r marwolaethau.