Fe wnaeth 455 o bobol gais am ysgariad ar-lein dros gyfnod y Nadolig, gan gynnwys 13 ar ddiwrnod y Nadolig.
Daw’r ffigurau swyddogol gan y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd sy’n dyddio o Noswyl Nadolig hyd at y Flwyddyn Newydd.
Ers y llynedd, mae unrhyw un sydd eisiau ysgaru yn gallu cwblhau’r holl broses ar-lein, heb unrhyw fath o waith papur.
Mae ffigurau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 4) yn dangos bod dros 23,000 o’r ceisiadau hyn wedi cael eu gwneud ers i’r gwasanaeth gael ei lansio yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2018.
Daw’r defnydd hwn o wasanaethau ysgaru “hollol ddigidol” ar-lein ar ôl gwario £1 biliwn i foderneiddio’r system gyfiawnder.
Ar y cyfan, mae dros 150,000 o bobol wedi defnyddio gwasanaethau cyfiawnder ar-lein yn 2018 – sy’n golygu cyfanswm o 300,000 dros y pedair blynedd diwethaf.