“Dwy ochr o’r un geiniog” yw’r mudiad annibyniaeth i Gymru a’r ymgyrch o blaid Brexit, yn ôl Aelod Seneddol Sir Fynwy.
Mae’r Ceidwadwr David TC Davies yn cefnogi Brexit “cant y cant”, ac yn ffafrio ymadawiad gyda “rhyw fath o gytundeb” – a hynny er bod 57% o aelodau’r Blaid Geidwadol ar lawr gwlad yn ffafrio Brexit heb gytundeb tros gynlluniau eu harweinydd, yn ôl arolwg heddiw.
Ar hyn o bryd, mae David TC Davies yn cefnogi cynlluniau Theresa May – ond mae’n ategu na all ei bargen hi wireddu “Brexit llawn”.
Wrth esbonio ei safiad ar ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd mae’n honni bod yna debygrwydd â’r ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru.
“Mewn egwyddor dw i’n credu ein bod ni ar yr un ochr,” meddai David TC Davies wrth golwg360.
“Os ydych chi’n credu bod Cymru yn medru sefyll ar ei phen ei hun, yn sicr mae Prydain gyfan – gyda phumed economi cryfaf y byd – yn medru sefyll ar ei phen ei hun.
“Mae’n hollol amhosib i ddweud bod Cymru yn gallu gwneud e’, ond bod Prydain methu … Dwy ochr o’r un geiniog ydym ni mewn ffordd.”
Trafodaethau
Mae David TC Davies yn beirniadu’r trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd hyd yma, ac yn pryderu bod y Deyrnas Unedig wedi gwanhau ei safiad trwy fod yn llugoer tros Brexit caled.
“R’yn ni wedi anfon allan y neges trwy’r holl broses – dros y ddwy flynedd diwethaf – ein bod ni ddim yn gyfforddus gyda Brexit heb fargen,” meddai.
“Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi sylweddoli hynny, ac wedi clywed y negeseuon … bod pobol Prydain ddim yn gant y cant o blaid Brexit …
“Petaswn i wedi bod yn bennaeth ar y broses, mi fuaswn i wedi gwneud pethau’n hollol wahanol. Buaswn i wedi dechrau gyda Brexit caled fel man cychwyn i unrhyw broses o drafod.”
Dyw’r bygythiad o Brexit heb fargen ddim wedi bod yn ddigon real yn ei farn ef, ac mae’n rhoi peth o’r bai ar aelodau’r Cabinet yn San Steffan.
“Mae gormod o aelodau’r Cabinet – neu rhai ohonyn nhw beth bynnag – sy’n swnio’n llai na hyderus am y posibilrwydd o dynnu allan heb gytundeb,” meddai.
“Mae yna ddiffyg hyder yna ymhlith rhai, nid pawb.”