Fe ddylai rhieni osgoi gadael i’w plant ddefnyddio ffonau symudol, tabledi neu gyfrifiaduron am awr cyn amser cysgu a chyfyngu’r amser sy’n cael ei dreulio yn edrych ar y sgrin, yn ôl canllaw swyddogol newydd.

Yn ôl arbenigwyr fe allai edrych ar sgriniau fel ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron yn yr awr cyn amser gwely effeithio ar gwsg, iechyd a lles plant.

Mae treulio amser hir ar declynnau hefyd yn cael ei gysylltu gyda bwyta bwydydd sothach a diffyg ymarfer corff.

Wrth gyhoeddi’r canllawiau swyddogol yn ymwneud a sgriniau am y tro cyntaf, mae’r Coleg Brenhinol Pediatrig ac Iechyd Plant wedi argymell cyfyngu’r amser sy’n cael ei dreulio yn edrych ar sgriniau a chyflwyno cyrffew. Ond maen nhw’n ychwanegu na ddylai rhieni boeni bod defnyddio’r teclynnau yn niweidiol.

Mae rhieni yn aml yn clywed bod defnyddio’r teclynnau yn gallu bod yn niweidiol i’w plant ond mewn gwirionedd fe allen nhw fod yn ffordd werthfawr i ddysgu am y byd, yn ôl y coleg.

Ond mae’r coleg yn ychwanegu na ddylai amser ar y teclynnau gymryd lle gweithgareddau eraill fel ymarfer corff, cysgu a threulio amser gyda’r teulu.