Mae dros hanner aelodau’r Blaid Geidwadol ar lawr gwlad yn ffafrio Brexit heb gytundeb tros gynlluniau eu harweinydd, yn ôl arolwg.
Mae 57% yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ddêl yn well na chynllun Brexit Theresa May, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Ac yn ôl yr arolwg, a gafodd ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, dim ond 29% byddai’n dewis ei chytundeb hi mewn refferendwm â dau opsiwn – Brexit gyda chytundeb, neu heb gytundeb.
Yn sgil cyhoeddiad y ffigurau diweddaraf yma, mae’r Athro Tim Bale, yn dweud bod Theresa May yn debygol o gael ei “siomi” â’r diffyg cefnogaeth wrth ddychwelyd i San Steffan.
“Amharod”
“Mae’n ymddangos bod yr aelodau yn amharod i gyfaddawdu,” meddai’r Athro. “Yn ogystal, mae’r aelodau ar lawr gwlad i weld wedi’u darbwyllo bod Brexit heb gytundeb yn opsiwn gwell.
“… Mae aelodau’r Blaid Geidwadol… wedi llwyr wrthod yr honiad y bydd Brexit heb gytundeb yn achosi trafferthion mawr.”
Byddai 76% o Aelodau’r Blaid Geidwadol yn dewis pleidleisio tros Brexit heb gytundeb petai yna refferendwm â dau ddewis – Brexit heb gytundeb, neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd.