Mae ymgyrch i ymchwilio i gyflwr y cyfryngau a’r wasg yng Nghymru wedi denu dros £4,000 gan gefnogwyr.

‘New Media Wales’ yw enw’r fenter, ac ers canol mis Rhagfyr mae’r cyhoedd wedi bod yn cyfrannu ati ar wefan codi arian, ‘Crowdfunder’.

Mae sefydlydd yr ymgyrch, Huw Marshall, yn esbonio bod yr arian yn mynd i alluogi iddo dreulio peth amser yn ymchwilio.

“Mae’r arian yma yn caniatáu i fi dreulio deufis yn llawn amser, yn archwilio, yn cwrdd, yn ymchwilio, ac yn datblygu’r cynllun busnes,” meddai wrth golwg360.

“Ac erbyn diwedd mis Mawrth dw i’n gobeithio cynnal cynhadledd agored sydd yn trafod y darganfyddiadau – o ran beth dw i wedi gwneud. Bydda i’n gwahodd pobol o bob rhan o’r sector yng Nghymru i hwnna.”

Ar hyn o bryd mae Huw Marshall yn gohebu â phobol yn Lloegr, yr Alban, a Gwlad y Basg, gyda’r nod o “ddysgu ganddyn nhw”.

Ac mae’n gobeithio bydd yr arian sydd wedi’i godi yn galluogi iddo “fuddsoddi mewn ymchwil”, trefnu’r gynhadledd, a thalu i gael gafael ar adroddiadau arbenigol.

Platfform newyddion newydd

Yn y pendraw, mae Huw Marshall yn gobeithio bydd yr ymchwil yn galluogi iddo greu “llwyfan cyfryngol sy’n trafod pynciau o ogwydd Cymreig”.

Ond mae’n cydnabod nad ar chwarae bach mae sefydlu platfform newyddion newydd.

“Mae’n farchnad heriol iawn,” meddai. “Dw i’n ymwybodol o hynny.

“[Byddai’n rhaid i] wasanaeth newydd fod yn hunangynhaliol … a gweithio fel busnes. Allwn ni ddim fod yn ddibynnol ar grantiau a ballu.

“Mae’n uchelgeisiol. Ond mae’n rhaid i ni drio cystadlu rŵan efo llwyfannau fel Mail Online. Achos dyna le mae pobol yng Nghymru yn cael eu gwybodaeth nhw am bethau ar hyn o bryd.”

Cyfryngau Prydeinig

Mae’n ymhelaethu ymhellach am ei bryderon am ddiffyg gogwydd Cymreig yn y cyfryngau Prydeinig, ac yn ategu mai dyna sydd wedi ei sbarduno.

“Y prif reswm tu ôl y penderfyniad oedd diffyg trafod newyddion o bersbectif Cymraeg,” meddai. “Y Daily Mail a’r Sun yw’r papurau newydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

“Radio 2 yw’r orsaf fwyaf poblogaidd. Felly mae pobol yn tueddu derbyn newyddion o bersbectif Prydeinig.

“Ac er bod y BBC yn gwneud rhywfaint o waith ar yr ochr yna, maen nhw dal yn blaenoriaethu’r ochr Brydeinig.” Mae Huw Marshall eisoes wedi beirniadu agwedd y BBC at y Gymraeg gan nodi bod yna “gwestiynau sydd angen eu gofyn” o hyd.