Bu farw un dyn ac aed â 23 o bobol i’r ysbyty wedi i’w bws mini droi drosodd mewn damwain yn yr Alban.

Digwyddodd y ddamwain un cerbyd ar ffordd yr A6089, rhwng Carfraemill a Gordon, tua 10.50yb heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 29).

Dywed Heddlu’r Alban fod y bws mini preifat yn cludo 23 o deithwyr yn ogystal â’r gyrrwr ar daith o Newtongrange i Kelso.

Mae’r rhai gafodd eu hanafu yn cael eu trin mewn ysbytai lleol yn ogystal a Chaeredin a Glasgow.

Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw lygad dystion i gysylltu a nhw.