Cafodd 16 o garcharorion oedd ymysg y rhai mwyaf peryglus i gymdeithas eu cadw yng ngharchar Berwyn, Wrecsam y llynedd.

Dywed Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd fod hyn yn dystiolaeth pellach fod y carchar “risg isel”, Categori C yn cael ei ddefnyddio i “ddympio” neu gadw troseddwyr oedd o’r blaen yn cael eu cadw mewn carchardai Categori A,  y rhai llymaf – sef troseddwyr difrifol yn cynnwys llofruddwyr a throseddwyr difrifol eraill.

Daeth y wybodaeth i law Plaid Cymru yn sgil cwestiynau o dan Gais Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn y Gogledd, Arfon Jones, fod y polisi yn peryglu gwaethygu’r sefyllfa fregus sy’n bodoli eisoes yn y carchar yn sgil prinder adnoddau a staff dibrofiad sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar y rhai sy’n ceisio cadw trefn ar y carcharorion.

Ond cafodd yr honiadau eu gwrthod yn hollol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Ychwanegodd Mrs Roberts fod yna garcharorion o Gymru oedd yn dal i gael eu symud i garchardai ledled Lloegr yn bell o’u teuluoedd – er gwaethaf bodolaeth y carchar newydd yn Wrecsam.