Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod Julie Williams – y ddynes o Aberaeron oedd ar goll – wedi cael ei darganfod yn ddiogel.

Yn gynharach heddiw dywedodd y llu eu bod yn poeni’n arw am les y ddynes 59 oed a welwyd y tro diwethaf yn gadael ei chartref yn y dref ar droed tua 6.45yh neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 28).

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ddiolchgar i bawb a rannodd y negeseuon ei bod hi ar goll.