Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei ladd tra’n dringo Ben Nevis ddydd Sul.

Fe gafodd Patrick Boothroyd, 21, o orllewin Swydd Efrog ei gludo i’r ysbyty yn Fort William gan wylwyr y glannau, ond fe fu farw o ganlyniad i’w anafiadau.

Roedd y gwasanaethau brys wedi’u galw i ardal Tower Gully ar y mynydd tua 2.25yp.

Fe gafodd dyn arall hefyd ei achub oddi yno a’i gludo i’r ysbyty, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth.