Mae un o’r ddau löwr a gafodd eu tynnu o bwll glo yn Swydd Efrog wedi marw.

Mae’r llall yn gwella gyda mân anafiadau wedi’r cwymp yn un o’r ychydig byllau dwfn sydd ar ôl yng ngwledydd Prydain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bwll glo Kellingley, yn Knottingley yng Ngogledd Swydd Efrog ychydig wedi pump o’r gloch neithiwr.

Mae’n debyg bod wal wedi dymchwel yn y pwll – a dyma’r trydydd dyn i gael ei ladd yno yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwetha’.