Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio tri dyn yn dilyn byrgleriaeth fore heddiw ym manc Santander, Prestatyn.

Cafodd yr Heddlu eu hysbysu o’r digwyddiad yn y banc ar Stryd Fawr y dref am 5.42am.

Cafodd hofrennydd yr Heddlu, plismyn a swyddogion trin cŵn yr Heddlu  eu hanfon i’r ardal a chafodd tri dyn eu harestio yn dilyn chwiliad manwl o’r ardal.

Mae’r tri dyn lleol sy’n 30 mlwydd oed, 31 mlwydd oed a 34 mlwydd oed wedi’u harestio ar amheuaeth o fwrglera.

Maen nhw’n disgwyl i gael eu holi yn y ddalfa yn Llanelwy.