Mae disgwyl i fachgen 16 oed ymddangos gerbron llys mewn cysylltiad ag ymosodiad ar ffoadur ifanc o Syria a gafodd ei ffilmio a’i ryddhau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn dweud fod y bachgen yn ei arddegau wedi cael ei holi, ac wedi’i riportio ar gyfer gwarant am y drosedd o ymosod.

Fe gafodd ei holi ynglyn â ffilm lle’r oedd y dioddefwr 15 oed, a’i fraich eisoes mewn sling, yn cael ei daflu i’r llawr a’i fygwth.

Mae’r fideo wedi cael ei rannu’n helaeth ar-lein, gan ennyn dicter a phobol sy’n awyddus i godi arian i’r bachgen Syriaidd trwy sefydlu tudalen Crowdfunder. Fe gododd y dudalen honno £50,000 o gyfraniadau mewn diwrnod.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y mis diwethaf (Hydref 2018) yn Almondbury Community School, Huddersfield.