Fe fydd gwledydd Prydain ar eu colled yn ariannol wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, beth bynnag yw canlyniad y trafodaethau ar delerau, yn ôl adolygiad ariannol newydd.

Gallai Cynnyrch Mewnwladol (GDP) gael ei dorri o hyd at 3.9% dros y 15 mlynedd nesaf fel rhan o gynllun Brexit Theresa May, meddai’r adolygiad o adrannau Whitehall.

Yn nhermau ariannol, mae hynny’n cyfateb i £100bn y flwyddyn, yn ôl arbenigwyr – sydd dipyn mwy nag y mae Prydain yn ei dalu i’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Ond byddai gwrthod y cynlluniau’n arwain at lefel GDP yn codi i 9.3% yn ystod yr un cyfnod, yn ogystal â chodi lefel benthyg i £119bn erbyn 2035.

Yn ôl yr adolygiad 83 tudalen, dim ond drwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd y gallai Prydain elwa’n ariannol.

Mae canlyniadau’r adolygiad wedi cael eu hategu gan Ganghellor San Steffan, Philip Hammond. Ond mae’n mynnu y bydd cynlluniau Theresa May yn atal cymaint â phosib o’r niwed economaidd.