Gor-boethi weiars mewn oergell oedd achos y tân yn nhŵr fflatiau Grenfell yn Kensington y llynedd, yn ôl tystiolaeth gan arbenigwr.

Mae’r Dr John Duncan Glover wedi dod i’r casgliad fod y tân ar Fehefin 14 y llynedd wedi’i gynnau, mwy na thebyg, yn y rhewgell Hotpoint FF175BP yng nghegin Fflat 16.

Yn yr ymchwiliad cyhoeddus i’r trychineb, mae llun o’r cysylltydd sy’n cael ei amau o or-boethi, wedi’i ddangos i bawb. Unwaith y gor-boethodd, fe aeth ar dân a chynnau’r tân mwy a laddodd 72 o bobol yn y pen draw.

John Duncan Glover yw prif beiriannydd Failure Electrical, cwmni sy’n ymchwilio i ddamweiniau yn ymwneud â thanau.