Mae cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi clywed bod Prif Weinidog Cymru yn “hynod o grac” pan gafodd diswyddiad y cyn-Weinidog ei wneud yn gyhoeddus.

Yn ystod ail ddiwrnod y cwest i farwolaeth yr Aelod Cynulliad tros Alun a Glannau Dyfrdwy, fe glywodd y crwner ddatganiadau gan un o gyfeillion Carl Sargeant, sef Stephen Jones, a chyd-aelod o’r Cabinet, Ken Skates.

Bu farw’r gwleidydd yn ei gartref yng Nghei Conna ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru a’i wahardd o’r Blaid Lafur fis Tachwedd y llynedd.

Roedd yn wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol yn erbyn menywod – cyhuddiadau yr oedd yn eu gwadu.

‘Paid â siarad’

Mewn datganiad gan Steven Jones, cyn-ymgynghorydd arbennig a phennaeth y wasg i Carwyn Jones, fe ddywedodd ei fod wedi siarad â Carl Sargeant yn fuan wedi iddo gael ei ddiswyddo.

Yn ôl yntau, roedd Carwyn Jones wedi gorchymyn y cyn-Weinidog i beidio â mynd yn gyhoeddus ynglŷn â’r honiadau, ac y byddai’n delio gyda nhw dros y penwythnos.

Ond ddiwrnod ar ôl marwolaeth Carl Sargeant, fe glywodd Steven Jones wrth siarad â Ken Skates fod y Prif Weinidog yn “hynod o grac” bod Carl Sargeant wedi sôn yn gyhoeddus am yr honiadau.

Mae Ken Skates wedi herio’r honiad hwnnw yn y datganiad.

Problemau iechyd meddwl

Yn gynharach yn y dydd, fe glywodd y crwner ddatganiad gan Ken Skates, a ddywedodd nad oedd Carl Sargeant erioed wedi dweud wrtho fod ganddo gyflwr iechyd meddwl.

“Roeddwn i wedi synhwyro bod ganddo broblemau iechyd meddwl erioed,” meddai. “Fe ddois i gredu nad oedd iechyd emosiynol Carl yn iawn.

“Fe ddywedodd wrtha i ei fod wedi cymryd at wau fel ffordd o gadw ei feddwl yn brysur.

“Wrth weithio gyda Carl, dw i’n credu bod Carl wedi dioddef yn feddyliol am gyfnod maith cyn ei farwolaeth a doedd e ddim wedi gallu datrys ei broblemau.”