Mae Heddlu De Cymru wedi enwi’r dyn a fu farw mewn damwain ffordd ger Castell-nedd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 26).

Bu farw Dennis Lewis, 89, ar ôl i’w gerbyd Nissan Juke llwyd daro yn erbyn wal ar Heol Dŵr y Felin ger cyffordd Twyn Teg toc wedi 2.30yp.

Roedd y gŵr o Gwmtwrch yn adnabyddus yn ardal Ystradgynlais fel cynghorydd tref a chyn-ddyfarnwr Undeb Rygbi Cymru.

Dyw’r heddlu ddim wedi cyhoeddi rhagor o fanylion.