Mae dynes wedi ei chyhuddo o ddynladdiad a thwyll ar ôl i fenyw 89 oed gael ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Llundain ganol y mis hwn.

Mae disgwyl i Busisiwr Msipha, 37, ymddangos gerbron yr Old Bailey ar Ragfyr 17 wedi ei chyhuddo o ladd y bensiynwraig a gafwyd yn farw yn ei chartref yn Corringway, Ealing, toc wedi 8.30yb ddydd Sadwrn, Tachwedd 17.

Cynhaliwyd archwiliad post-mortem y diwrnod canlynol, ond mae Heddlu Llundain yn dweud nad yw hi’n bosib sefydlu achos y farwolaeth heb brofion pellach.

Cafodd Busisiwr Msipha ei harestio’r diwrnod hwnnw ac ymddangosodd yn Llys Ynadon Ealing ar Dachwedd 20.