Mae gwraig y cefnogwr tîm pêl-droed Lerpwl, Sean Cox, yn dweud bod ei bywyd hi wedi cael ei droi ben uchaf isaf ar ôl ymosodiad erchyll arno ym mis Ebrill eleni.

Roedd Sean Cox yn aros i gêm rownd gyn-derfynol Lerpwl yn erbyn Roma ddechrau ym mis Ebrill 2018, pan ddisgynnodd y tad o dri tu allan i dafarn yn agos i Anfield, stadiwm Lerpwl, ar ôl cael ei daro gan gefnogwyr FC Roma.

Mae ei wraig wedi bod yn siarad â’r cyfryngau, ac yn dweud bod ei gŵr, cefnogwr Lerpwl brwd gydol ei fywyd, yn gwella’n araf ond nad yw’n gallu siarad na cherdded. Er iddo fynd i’r gêm, meddai, nid yr un dyn ddaeth yn ôl.

Fe gafodd yr ymosodwr, Filippo Lombardi, 21, o Rufain, ei glirio o achosi niwed corfforol difrifol, ond mae wedi cael ei garcharu am dair blynedd am achosi anhrefn treisgar.

Mae Daniele Sciusco, 29, o Rufain, ddwy flynedd a hanner o ddedfryd ar ôl cyfaddef o fod yn euog o anhrefn treisgar cyn y gêm.