Fe ddylai miloedd o blant sy’n ffoaduriaid gael mynediad i wledydd Prydain, er mwyn nodi 80 mlwyddiant trefn Kindertransport, meddai aelod o Dy’r Arglwyddi.
Mae’r Arglwydd Dubs (Llafur) o’r farn y dylai 10,000 o blant heb rieni na theulu gael eu cartrefu yn y Deyrnas Unedig, fesul deng mil y flwyddyn.
Fe ddaeth yr Arglwydd Fubs ei hun i fyw i wledydd Prydain fel rhan o drefn ‘Kindertransport’ wrth ddianc rhag y Natsïaid cyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’n dadlau y byddai ei syniad yn ffordd dda o nodi 80 mlwyddiant y cynllun gwreiddiol a ddaeth â tua 10,000 o blant rhwng 3 a 17 oed o’r Almaen, Awstria, Tsiecoslofacia a Phwyl allan o beryg.
Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Iddewon, a welodd y rhan fwyaf ohonyn nhw byth mo’u rhieni wedyn.
Mae’r Arglwydd Bourne o Aberystwyth (y cyn-Aelod Cynulliad Nick Bourne) wedi addo ymateb i’r cais yn rhinwedd ei swydd yn Weinidog Cymunedau a Llywodraeth Leol llywodraeth San Steffan.
He said there was a responsibility on government, a responsibility on individuals and a “global position” as well.