Mae senedd yr Wcrain wedi pleidleisio o blaid cynnig yr arlywydd i roi rheolaeth y wlad yn nwylo’r lluoedd arfog am gyfnod o 30 diwrnod.
Fe fydd yn cynnwys cryfhau amddiffyndeydd y wlad ar fôr ac yn yr awyr.
Mae’r mesurau a gyflwynwyd gerbron y senedd hefyd yn cynnwys awgrym y gellid “cryfhau” mesurau gwrth-frawychol.
Fe ofynnodd yr arlywydd Petro Poroshenko am gefnogaeth wedi’r digwyddiad ger y Crimea ddydd Sul (Tachwedd 25) pan daniodd gwarchodwyr ffin Rwsia ar dair llong o’r Wcrain, cyn arestio eu criwiau.
Fe bleidleisiodd y senedd yn unfrydol o blaid y cynnig, ar ôl pump awr o drafod.