Mae dau ddyn wedi’u dwyn i’r ddalfa ac yn cael eu holi, wedi iddyn nhw cael eu harestio am yr ail waith mewn cysylltiad â llofruddiaeth athro oedrannus.

Mae Heddlu’r Thames Valley wedi bod yn ymchwilio i lofruddiaeth ddwbwl ers mis Ionawr eleni, wedi marwolaeth Peter Farquhar, 69, a’i gymdoges 83 oed, Ann Moore-Martin.

Roedd y pensiynwyr yn byw ychydig ddrysau oddi wrth ei gilydd ym mhentref Maids Moreton yn Swydd Buckingham, ac fe fuon nhwfarw o fewn blwyddyn a hanner i’w gilydd.

Fe gafodd Ben Field, 27, a’i gyfaill, Martyn Smith, 31, eu harestio ar y pryd. Y gred ydi fod y ddau yn edrych ar ôl Peter Farquhar, wrth i’w iechyd ddirywio yn ystod misoedd olaf ei fywyd.

Mae’r ddau wedi’u harestio eto heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 6) mewn cysylltiad â marwolaeth Peter Farquhar, ac maen nhw’n dal i fod ar fechnïaeth mewn cysylltiad â marwolaeth Ann Moore-Martin.