Mae o leiaf 17 o ymfudwyr wedi marw wrth geisio cyrraedd Sbaen ar gychod oedd wedi gadael Gogledd Affrica.

Mae cyrff 13 o ffoaduriaid wedi’u codi o Fôr Alboran heddiw (Tachwedd 6), sydd ar lwybr poblogaidd gan y rheiny sydd am ddod i wledydd y Môr Canoldir.

Mewn achos arall, fe ddaeth cadarnhad gan awdurdodau Sbaen fod cyrff pedwar o bobol, ynghyd â 22 o ffoaduriaid byw, wedi’u canfod wedi i gwch pren daro rîff ger Gibraltar. Roedden nhwthau’n ffoi o ogledd Affrica.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros 2,160 o bobol wedi ceisio croesi y Môr Canoldir i Ewrop eleni.