Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes ar ôl iddo gyfaddef llofruddio ei wraig a’i merch 11 oed.

Cafodd Christopher Boon, 28 oed, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Bryste heddiw (dydd Llun, 5 Tachwedd). Fe fydd yn gorfod treulio o leiaf 29 mlynedd dan glo am ladd Laura Mortimer, 31 oed, a’i merch Ella Dalby, 11 oed.

Cafwyd hyd i’r ddwy yn farw mewn tŷ yn Dexter Way, Caerloyw, ar 28 Mai.

Roedd y ddwy wedi cael eu trywanu yn eu hwynebau a’u gyddfau, meddai’r erlynydd Richard Smith wrth y Llys.

Roedd Laura Mortimer wedi cael ei thrywanu 18 o weithiau a’i merch wedi’i thrywanu 24 o weithiau.

Clywodd y llys bod y ddwy wedi marw yn “gyflym iawn” o’u hanafiadau.

Ar ôl yr ymosodiad, galwodd Christopher Boon ei fam i ddweud wrthi beth oedd wedi digwydd. Cyrhaeddodd partner ei fam y lleoliad cyn ffonio’r heddlu.

“Merch ddewr”

Roedd y barnwr Mrs Ustus May wedi talu teyrnged i “ddewrder” Ella Dalby am geisio helpu ei mam.

“Byddai hi wedi tystio rhywfaint o’ch ymosodiad ar ei mam a cheisiodd hi eich stopio cyn i chi droi arni hi,” meddai wrth Christopher Boon.

“Am ferch ddewr. Cafwyd hyd iddi a’i mam yn gorwedd gyda’i gilydd, ochr yn ochr.”

 

Clywodd y llys bod gan Christopher Boon hanes o drais yn erbyn merched.