Roedd perchennog clwb pêl-droed Leicestet City mewn hofrennydd a blymiodd i’r ddaear cyn mynd ar dân mewn maes parcio yn Stadiwm King Power nos Sadwrn (Hydref 27), yn ôl asiantaeth newyddion Reuters.

Hyd yn hyn, dyw’r adroddiadau ddim wedi cael eu cadarnhau.

Roedd Vichai Srivaddhanaprabha yn adnabyddus am deithio i gemau yn ei hofrennydd, oedd yn glanio ar y cae cyn gemau ac yn glanio unwaith eto i’w gludo o’r stadiwm ar ddiwedd gemau.

Roedd wedi bod yn gwylio’r tîm yn herio West Ham yn ystod y noson.

Mae lle i gredu ei fod e’n un o bump o bobol oedd yn yr hofrennydd adeg y gwrthdrawiad, ynghyd â’i ferch, dau beilot ac un person arall.

Ond yn groes i adroddiadau cychwynnol, doedd rheolwr y tîm, Claude Puel ddim yn eu plith.

Does dim manylion wedi’u cadarnhau hyd yn hyn, ac mae’r ymchwiliad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Gyrfa

Prynodd Vichai Srivaddhanaprabha glwb Leicester City yn 2010, ac yntau’n bennaeth cwmni King Power International yng Ngwlad Thai, cwmni a gafodd ei sefydlu ganddo yn 1989. Mae’n dad i bedwar o blant.

Yn 2014, enillodd y clwb ddyrchafiad o’r Bencampwriaeth, gan ennill Uwch Gynghrair ddwy flynedd yn ddiweddarach, er mawr syndod i’r byd pêl-droed.

Vichai Srivaddhanaprabha yw’r pumed person cyfoethocaf yng Ngwlad Thai, ac mae lle i gredu ei fod yn werth $4.9bn.

Mae ei gwmni’n berchen ar faes awyr yng Ngwlad Thai, yn ogystal â Chlwb Pêl-droed Oud-Heverlee Leuven yng Ngwlad Belg.