Mae’r cyn-bêldroediwr, rheolwr a sylwebydd Glenn Hoddle mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael trawiad ar y galon.

Cafodd ei daro’n wael yn stiwdio deledu BT Sport ddydd Sadwrn (Hydref 28), ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.

Mae’n ymateb yn dda i driniaeth, yn ôl ei lefarydd.

“Mae’r teulu’n ddiolchgar i bawb yn y teulu pêl-droed a thu hwnt sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth, sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr,” meddai.

“Yn benodol, hoffai Glenn a’i deulu ddiolch yn gyhoeddus i staff BT Sport oedd wedi ei drin ar unwaith ar y set pan gafodd ei daro’n wael.”

Mae’r teulu’n gofyn am breifatrwydd wrth iddo barhau i dderbyn triniaeth.