Mae gweithwyr sw yn ne Lloegr yn dathlu geni ebol math prin iawn o sebra.
Fe anwyd y cyw Grevy yn Sw Marwell yn Hampshire yn ystod oriau mân dydd Gwener diwethaf (Hydref 12).
Mae’r enedigaeth hon yn golygu fod bellach wyth o’r math yma o sebra yn y sw,
“Mae ein babi newydd yn ychwanegiad pwysig iawn i rywogaeth brin iawn,” meddai llefarydd ar ran y sw.
Mor ddiweddar â’r 1970au, roedd cymaint â 15,000 o sebras Grevy yn y gwyllt, tra bod y nifer bellach wedi gostwng i ddim ond rhyw 2,800.
Mae’r brid wedi diodde’n enbyd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a’r ffaith bod eu cynefinoedd yn cael eu chwalu.