Mae cwmni sy’n gyfrifol am faes carfanau yn y Rhyl wedi derbyn dirwy gwerth £1,500 am fethu â chyflwyno dogfennau sy’n ymwneud â thrwydded y safle.
Mae Lyons Holiday Parks Limited, sy’n dal trwydded ar Faes Carafanau Cae’r Dderwen, wedi eu gorchymyn i dalu’r gost gan Lys Ynadon Llandudno.
Roedden nhw wedi methu â chyflwyno dogfennau a oedd yn ymwneud â pholisi ac asesiad llifogydd y safle.
Maen nhw wedi’u gorchymyn i dalu cyfanswm o £1,500 mewn dirwy, a £231 mewn costau.