Mae Dug a Duges Sussex wedi cyhoeddi eu bod yn disgwyl babi yn y gwanwyn 2019, meddai Palas Kensington.
Roedd y cwpl wedi cyrraedd Sydney heddiw (dydd Llun, 15 Hydref) ar ddechrau eu taith 16 diwrnod o Awstralia, Seland Newydd, Fiji a Tonga.
Fe briododd Harry, 34, a Meghan, 37, yng Nghastell Windsor ym mis Mai eleni.