Mae Gogledd a De Corea wedi cytuno i gynnal seremoni i nodi prosiect sy’n uno eu ffyrdd a rheilffyrdd.
Dywedodd gweinidogaeth De Corea bod y ddwy wlad wedi cytuno i gynnal trafodaethau milwrol i leihau’r tensiynau ar y ffin.
Ychwanegodd y byddan nhw hefyd yn trafod sefydlu pwyllgor milwrol ar y cyd gyda’r bwriad o gadw’r cyfathrebu rhwng y ddwy wlad yn agored ac osgoi argyfyngau a gwrthdaro.
Mae cytundeb hefyd i gynnal trafodaethau rhwng swyddogion chwaraeon ar ddiwedd y mis ynglŷn ag anfon timau ar y cyd i’r Gemau Olympaidd yn yr haf 2020 a gwneud cais i gynnal y Gemau yn 2032 gyda’i gilydd.
Yn ogystal maen nhw wedi cytuno i gynnal trafodaethau ym mis Tachwedd i sefydlu cyfarfodydd drwy gyfrwng fideo rhwng perthnasau a gafodd eu gwahanu yn Rhyfel Corea rhwng 1950-53.