Mae’r seiclwr o Gymru a gafodd ei saethu gan heliwr yn Ffrainc wedi cael ei enwi’n lleol fel Marc Sutton.
Roedd y gŵr 34 oed yn dod yn wreiddiol o Gaerffili, ac roedd yn berchen ar fwyty ger canolfan sgïo Les Gets.
Bu farw ar ôl iddo gael ei saethu tra oedd yn seiclo yn yr Alpau yn Ffrainc ddydd Sadwrn (Hydref 13).
Mae dyn 22 oed, sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty yn dioddef o sioc, yn cael ei amau o fod yn gyfrifol am y farwolaeth.
Dywed yr erlynydd ar gyfer ardal Thonon-Les-Bains yn Ffrainc fod lle i gredu mai damwain oedd y digwyddiad a’i fod wedi cael ei daro gan fwled o wn heliwr.
Roedd Marc Sutton yn teithio ar ei feic i lawr mynydd nid nepell o’r fan lle’r oedd grŵp o bobol yn hela, meddai wedyn.
Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud eu bod nhw mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol yn Ffrainc ynglŷn â marwolaeth dyn o wledydd Prydain. Maen nhw ar hyn o bryd yn cynnig cymorth i’w deulu.