Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cartref San Steffan, James Brokenshire gyhoeddi ddydd Llun y bydd cladin yn cael ei wahardd ar adeiladau preswyl newydd sydd dros 18 metr.
Bydd y gwaharddiad hefyd yn cynnwys ysgolion, cartrefi gofal, llety myfyrwyr ac ysbytai.
Ond fydd e ddim yn cynnwys adeiladau a gafodd eu hadeiladu eisoes.
Serch hynny, mae Llywodraeth Prydain eisoes yn gweithredu rhaglen gwerth £400m i dynnu cladin oddi ar gartrefi cymdeithasol sydd mewn perygl yn Lloegr.
Daw’r gwaharddiad, a fydd yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham ddydd Llun, ar ddiwedd ymgynghoriad yn dilyn tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain.
Cladin fflamadwy oedd yn cael y bai am y tân a laddodd 72 o bobol fis Mehefin y llynedd.
Mae disgwyl i reoliadau adeiladu newydd gael eu cyflwyno yn yr hydref i gynnwys y gwaharddiad.