Mae chwech o swyddogion carchar Long Lartin yn Swydd Caerwrangon wedi cael eu hanafu yn dilyn digwyddiad treisgar.
Cafodd y digwyddiad ei gadarnhau mewn datganiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bryd hynny, dywedodd y datganiad fod pump o swyddogion wedi’u hanafu, ond mae’r nifer wedi codi erbyn hyn.
“Mae staff carchar sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig wedi cael eu trefnu i ymdrin â digwyddiad sy’n mynd rhagddo,” meddai.
“Mae pum aelod o staff wedi derbyn triniaeth am anafiadau yng ngharchar HMP Long Lartin.
“Dydyn ni ddim yn goddef trais yn ein carchardai, ac rydym yn glir y bydd y sawl sy’n gyfrifol yn cael eu cyfeirio at yr heddlu ac y gallen nhw dreulio mwy o amser dan glo.”
Cynllun gweithredu
Dydy achos yr anhrefn ddim yn glir ar hyn o bryd, ond fe ddaw lai na deufis ar ôl i garchar Long Lartin gyhoeddi cynllun gweithredu, a hwnnw mewn ymateb i arolwg o’r carchar a chyhoeddi adroddiad yr arolygwyr ym mis Mai.
Mae’r cynllun gweithredu’n nodi a yw’r carchar yn cytuno’n llawn, yn rhannol neu’n anghytuno ag argymhellion yr arolygwyr, ynghyd â chamau y bydd y carchar yn eu cymryd i weithredu arnyn nhw a’r amser y bydd yn ei gymryd i’w rhoi ar waith.
Cytunodd y carchar yn rhannol fod angen mwy o weithgareddau ar garcharorion i’w cadw nhw rhag diflastod, ond fe gytunodd yn llawn i flaenoriaethu gwella adnoddau i sicrhau lles y carcharion.
Cafodd nifer o gamau i wella addysg a sgiliau carcharorion eu cytuno’n rhannol, ac nid yn llawn, yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau er mwyn gallu cynnig cyrsiau.
Allan o’r 49 o argymhellion, cafodd 28 eu cytuno’n llawn, 13 yn rhannol ac wyth eu gwrthod.
Ymateb yng Nghymru
Roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’u llefarydd cyfiawnder, Liz Saville Roberts ymhlith y cyntaf ar wefan gymdeithasol Twitter i sôn am y digwyddiad.
Cyfeiriodd at y ffaith fod y carchar wedi’i leoli 30 milltir i ffwrdd o Birmingham, lle mae’r Ceidwadwyr yn cynnal cynhadledd ar hyn o bryd, a bod “toriadau’n dod ag “anhrefn i gyfiawnder troseddol”.
Dywedodd wrth golwg360 ei bod hi wedi cael gwybod am y digwyddiad “o ffynhonnell ddi-enw dda ond heb ei gadarnhau”, a’i bod yn disgwyl rhagor o wybodaeth am 5 o’r gloch heddiw.
Mewn neges at golwg360, dywedodd, “Yn ôl Gold Command, hyd at 80 o garcharorion wedi cymryd rheolaeth ar F Wing.
“Sôn bod nifer o garcharorion eisiau ildio ond bod cnewyllyn o 8 neu 10 gwirioneddol beryglus.”
Carchar Long Lartin
Carchar Categori A yw Long Lartin, lle mae nifer o droseddwyr mwyaf peryglus gwledydd Prydain wedi’u cadw.
Yn eu plith mae Christopher Halliwell, gyrrwr tacsi a lofruddiodd Sian O’Callaghan a Becky Godden.