Mae dau ddyn wedi’u harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, wedi i ddyn yn ei arddegau gael ei saethu yn ei stumog neithiwr.
Y gred ydi fod y dioddefwr 19 oed wedi’i dargedu gan y dynion, toc cyn 7.15yh yn Tilbury, Essex.
Mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Prifysgol Basildon.
Mae dyn 36 oed o Tilbury a dyn 40 oed o Stanford-le-Hope yn cael eu holi yn y ddalfa.