Mae un o sylfaenwyr Cwmni Recordiau Sain yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru osod cerddoriaeth yn yr un categori â llyfrau a chylchgronau Cymraeg wrth ddosbarthu nawdd.
Daeth y cyhoeddiad heddiw y bydd yn rhaid i Gwmni Recordiau Sain “ailstrwythuro” mewn ymgais i arbed costau, a hynny yn bennaf oherwydd gostyngiad yng ngwerthiant CDs a newid yn y farchnad gerddoriaeth.
Mae Sain ar hyn o bryd yn cyflogi tua 12 aelod o staff yn llawn amser, ond mae disgwyl i’r rhif hwnnw gael ei dorri “i tua hanner dwsin” o’r flwyddyn nesaf ymlaen, meddai Dafydd Iwan.
“Rydan ni wedi bod yn dadlau efo’r llywodraeth ers blynyddoedd bod yr egwyddor sy’n cynnal llyfrau a chylchgronau, oherwydd maint y gynulleidfa, yr un mor berthnasol i gerddoriaeth,” meddai’r gŵr a sefydlodd Sain yn yr 1960au wrth golwg360.
“Mewn gwirionedd, lle mae’r iaith Gymraeg yn y cwestiwn, mae cerddoriaeth yn cyrraedd mwy o bobol ifanc na chylchgronau a llyfrau.
“Dylai’r Llywodraeth weld bod cerddoriaeth yn ffordd bwysig iawn o wneud yr iaith Gymraeg yn rhywbeth byw i bobol ifanc.”
“Dirywiad ar sawl ffrynt”
Yn ôl Dafydd Iwan, lle mae gwerthu cerddoriaeth yn y cwestiwn, mae Sain wedi bod yn “ymladd yn erbyn y lli ers blynyddoedd”.
Er bod y cwmni wedi ceisio addasu i’r farchnad trwy gyfrwng yr ap ffrydio cerddoriaeth Gymraeg, Aptôn, mae cystadlu yn erbyn cwmnïau mawrion sy’n gwario miliynau ar eu gwasanaethau eu hunain yn “broblem,” meddai wedyn.
“Mae yna fwrlwm mawr yn y byd pop Cymraeg, ond dyw’r rhan fwyaf ohono fe ddim yn cael ei gyhoeddi ar Gryno-Ddisgiau – mae’n cael ei gyhoeddi’n ddigidol.
“Y broblem sydd ar ôl yw sut mae rhywun yn cynnal cyflogaeth a sut mae rhywun yn talu am y cynnyrch. Does yna ddim prinder galw am y cynnyrch, ond mae yna brinder marchnad ar gyfer Cryno-ddisgiau.
“Ar ben popeth arall, mae’r breindal oedd yn arfer dod o PRS wedi lleihau dros y ddeng mlynedd ddiwethaf gymaint ag 80% oherwydd newid polisi gan PRS o beidio â chydnabod Radio Cymru fel gorsaf genedlaethol.
“Mae wedi bod yn ddirywiad ar sawl ffrynt, ac mae’n anodd cynnal cyflogaeth.”
Y dyfodol?
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r cyfarwyddwr yn cydnabod y bydd yn rhaid i Sain ymgeisio am grantiau cyhoeddus – ond mae angen newid strwythur y cwmni cyn y gall hynny ddigwydd, meddai.
“Dau beth rydan ni’n trio ei wneud rŵan ydy cael cymorth o’r sector cyhoeddus i warchod yr archif…
“A’r peth arall rydan ni’n trio ei wneud yw sefydlu cwmni budd cymunedol fel y byddwn ni’n gallu mynd ar ôl grantiau i wneud y math o recordiau sydd ddim yn fasnachol, efallai, ond sy’n bwysig i’r diwylliant Cymraeg.
“Pethau rydan ni wedi bod yn eu gwneud ar hyd y blynyddoedd, fel cerdd dant a gwerin a chlasurol a chantorion ifanc – hynny yw, pethau roeddwn ni’n gallu eu gwneud tra oedd y diwydiant yn ffynnu, er mwyn sicrhau bod y goreuon yng Nghymru yn cael eu recordio.
“Ond yn y dyfodol bydd rhaid i hwnna gael ei wneud gan arian cyhoeddus.”