Mae’r BBC yn bwriadu symud mwy o’i staff ac adnoddau y tu hwnt i Lundain, yn ôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol.

Mae disgwyl i’r Arglwydd Tony Hall son am yr heriau sy’n wynebu’r BBC a darlledu cyhoeddus mewn araith i’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) ddydd Mawrth.

Fe fydd yn awgrymu pa gamau sydd angen i’r BBC eu cymryd yn wyneb pwysau sylweddol gan wasanaethau fel Netflix ac Amazon, a’r her o fynd i’r afael a newyddion ffug.

Un o’r newidiadau sy’n cael eu hystyried gan y gorfforaeth yw adleoli adnoddau y tu allan i Lundain er mwyn creu presenoldeb ehangach yn Lloegr a thu hwnt.

Fe fydd yn dweud: “Er gwaetha’r heriau, mae gen i hyder aruthrol yn y BBC a’i dyfodol. Ry’n ni’n gwybod y gallwn  ni wneud mwy dros Brydain.

“Buddsoddi mewn cynnwys sy’n cefnogi’r economi greadigol. Gwasanaethau ar-lein heb eu hail. Mwy ar gyfer plant a phobl ifanc. Ymddiriedaeth a chywirdeb mewn newyddion. Mwy y tu allan i Lundain.”

Fe gyhoeddodd y BBC yn 2004 ei bod yn symud rhannau helaeth o’i gwasanaeth i Salford a dywed Tony Hall ei fod yn awyddus i adeiladu ar y gwersi o ddatganoli’r gorfforaeth. Y gobaith yw y bydd yn rhoi hwb economaidd, meddai.