“Nid problem ddinesig yn unig” yw manteisio yn rhywiol ar blant a phobol ifanc, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys.
Daw ei sylwadau wrth i Gwmni Theatr Arad Goch baratoi ar gyfer taith o amgylch ysgolion uwchradd Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth am sut y gall pobol ifanc fod yn darged i rywun sy’n ceisio manteisio arnyn nhw mewn ffordd rywiol.
Yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys mae cam-fanteisio rhywiol yn bodoli mewn ardaloedd gwledig fel Dyfed-Powys, yn enwedig ar y cyfryngau digidol.
“Mewn ardaloedd gwledig mae problemau sydd yn ymwneud ag unigrwydd a bod yn ynysig yn gallu effeithio’n fawr ar bobol ifanc,” meddai Dafydd Llywelyn.
“Yn aml, nid oes ganddynt rwydwaith o gysylltiadau agos, ac mae apêl y cyfryngau digidol, a’r mynediad rhwydd iddynt, yn creu argyfyngau a phroblemau newydd i bobol ifanc.”
‘Hudo / Tempted’
Mae ‘Hudo / Tempted’ yn gynhyrchiad sydd wedi cael ei sgriptio gan Mared Llywelyn Williams, enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod yr Urdd y llynedd.
Bydd y daith o gwmpas ysgolion yn cael ei chynnal rhwng mis Hydref a mis Tachwedd, a’r bwriad yw codi ymwybyddiaeth pobol ifanc o’u hawliau ac o’r gyfraith yn y maes cam-fanteisio rhywiol.
Ffurf fforwm sydd i’r cynhyrchiad, a bydd disgyblion yn cael cyfle i ystyried penderfyniadau’r cymeriadau, gan drafod a chyfrannu syniadau.
Oherwydd natur sensitif y pwnc, bydd athrawon yn cael gweld y gwaith cyn i’r ysgolion ymweld â’u hysgolion.
Mae’r daith wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ac mae’r sgript yn tynnu ar wybodaeth arbenigol Swyddogion Cyswllt Ysgolion Heddlu Dyfed Powys.
Mae arian hefyd wedi cael ei roi gan Gynghorau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.