Fe wariodd Llywodraeth Cymru £17, 581 ar gynnal gigs cyfrinachol dwyieithog yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
£15,000 oedd y cyllid gwreiddiol ar gyfer ariannu gigs ‘SHWSH’, ond cynyddodd y gost oherwydd bod nifer y gigs wedi cynyddu o bump i saith.
Mae golwg360 hefyd yn gallu datgelu bod 459 o bobol wedi mynd i weld y perfformiadau, sy’n golygu mai £38.30 oedd y gost y pen.
Beth oedd SHWSH?
Cafodd gigs SHWSH eu cynnal yn ystod prifwyl y brifddinas ym mis Awst, ac roedd rhaid anfon neges testun er mwyn cael gwybod lle’r oedden nhw.
Ymysg lleoliadau’r gigs cudd roedd Neuadd Masonic Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bu Gwenno, Chroma, Mellt a Papur Wal yn perfformio.
Yn wahanol i gigs eraill adeg yr Eisteddfod, roedd mynediad am ddim i gigs SHWSH.
Roedd rhaid talu £15 am un o nosweithiau Maes B, a’r un faint am noson gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghlwb Ifor Bach.
Beirniadaeth
Mae pobol oedd ynghlwm â threfnu gigs eraill adeg yr Eisteddfod wedi cwyno wrth golwg360, gan ddweud bod y gigs SHWSH wedi tynnu pobol o’u digwyddiadau nhw.
Ac fe gafodd y gigs eu beirniadu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am eu bod yn ddwyieithog ac yn “rhoi’r argraff fod rhaid cael y Saesneg i ‘gefnogi’ y Gymraeg”.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi canfyddiadau eu gwerthusiad o’r prosiect, ac yn ffyddiog ei fod wedi annog pobol di-Gymraeg i ymweld â’r brifwyl.