Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddyn yn ei 20au gael ei drywanu i farwolaeth yn ne Llundain fore heddiw.
Maen nhw’n trin ei farwolaeth fel achos o lofruddio.
Cawson nhw eu galw i Kingston upon Thames am 2.16yb.
Cafodd y dyn driniaeth CPR ond fe fu farw yn y fan a’r lle am 3.02yb.
Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.